Croeso

croeso_graphic
Croeso i wefan Penuel Bangor! Y gobaith yw y bydd eich ymweliad a’r wefan ennyn digon o chwilfrydedd ynoch i ymweld â ni yn un o’n hoedfaon os daw cyfle. Gallaf eich sicrhau y bydd croeso twymgalon yn eich disgwyl. Y mae Penuel ers blynyddoedd yn croesawu cyfeillion o bob cefndir enwadol yn ogystal ag unigolion sydd hyd yn hyn, heb fod yn gysylltiedig ag unrhyw eglwys o gwbl.

Yr ydym yn addoli Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr, a rhoddir cyfle i bobl aelod i gyfrannu o’i ddawn i wasanaethu’r Gwaredwr.

Yr ydym yn gwbl ymroddedig i gydweithio ag eglwysi eraill y ddinas drwy rwydwaith “CYTUN” a’r “Cyngor Eglwysi Rhyddion”.

Ym Mhenuel cewch groestoriad hyfryd o bobl yn hanu o bob ran o Gymru. Y mae eu brwdfrydedd a’u hawydd i weithio dros Iesu Grist yn amlwg. Os gallwn fod o unrhyw gymorth cysylltwch a ni drwy ddefnyddio’r llwybr priodol ar y safle.

Y mae yma ddrws a breichiau agored i’ch croesawu. Bendith arnoch!
llofnod_olaf