Abdelbaset al- Megrahi

// Medi 17th, 2009 // Erthyglau Olaf

Wrth geisio crynhoi fy meddyliau ar gyfer y golofn hon y mae’r drafodaeth, neu yn wir y ffrae, am ryddhau Abdelbaset al Megrahi yn dwysau. Yn wir y mae’r ffrae yn tanlinellu’r gwrthdaro sydd ynom rhwng yr angen am weld gweinyddu cyfiawnder ar y naill law ac ar y llaw arall ein dyhead am gael gweld trugaredd, tosturi a gras yn gorchfygu.

A bwrw mai’r dyn hwn oedd yn gyfrifol am y gyflafan yn y lle cyntaf (ac y mae lle mawr i amau hynny) wrth gwrs y mae lle i ddadlau na ddylai fod wedi ei ryddhau. Y mae’r reddf naturiol sydd ym mhawb yn gwybod hynny. Carcharwyd y gþr a ddyfarnwyd yn euog o achosi marwolaeth dau gant saith deg o bobl ar Pan Am 103 ar 21 Rhagfyr 1988, i garchar am o leiaf ugain mlynedd. Yr oedd hynny’n gyfiawn. Yn wir byddai rhai am ddadlau fod elfen o drugaredd yn y dyfarniad hwnnw. Oni ddylai fod wedi marw am ei drosedd? Gwaed am waed, llygad am lygad, bywyd am fywyd? Y mae carfan gref o bobl yn credu fod unrhyw gymdeithas sy’n gwahardd y gosb eithaf yn dangos llawer iawn mwy o ddiddordeb mewn trugaredd na chyfiawnder.

Erbyn hyn y mae’r sinig sydd ynof yn dueddol o gredu fod a wnelo rhyddhau al-Megrahi lawer iawn mwy â pherthynas wleidyddol gyda Libya (lle mae’r olew llifo’n rhwydd) nag ydyw ag unrhyw syniad dyrchafol am dosturi. Ond wrth wrando’r dadlau ynglÿn â’r achos hwn y mae’n amlwg fod mwyafrif llethol y drafodaeth yn ymwneud â moesoldeb. Wrth annerch Senedd yr Alban dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenny MacAskill: “Our Justice system demands that judgment be imposed but compassion be available. Our beliefs dictate that justice be served, but mercy be shown.”

Y mae trugaredd, tosturi a gras yn rhinweddau y carem fod yn feddiannol arnynt ond ysywaeth y mae dialedd a thra-arglwyddiaethu yn dod yn llawer iawn mwy naturiol i ni. Ond pwy ddywedodd mai’r hyn sy’n dod yn naturiol i ni sydd orau?

Y mae’r ffydd a ymddiriedwyd i ni yn dysgu fod trugaredd a chyfiawnder yn un yng ngolwg Duw. Y mae a wnelo Duw bob amser â’r ymchwil am gyfiawnder a’r ymgais i unioni cam. Y mae a wnelo hefyd a’r ymchwil am lwybr sy’n cynnig trugaredd a rhyddhad i’r sawl sy’n haeddu barn.

Yn hyn o beth y mae penderfyniad llywodraeth yr Alban i ryddhau al- Megrahi yn cyhoeddi i’r byd fod yna “ffordd ragorach fyth”. Nid rhaff neu gadair drydan yw symbol y ffydd Gristnogol, oherwydd dim ond cyfiawnder a weinyddir yng nghyd- destun yr offer hynny. Ond y mae o hyd rhyw drydedd ran o boblogaeth y byd yn parhau i gofleidio neges hen, hen groesbren garw lle mae cyfiawnder a thrugaredd yn cyfarfod a’i gilydd yn yr un lle.

Leave a Reply