Gweld a Gweld

// Medi 17th, 2009 // Erthyglau Olaf

Rhaid cyfaddef nad wyf yn rhannu’r hyn sy’n ymddangos yn frwdfrydedd gweddill y byd am Michael Jackson. Rwy’n fwy o ffan y Brenin Roc o Memphis, Elvis Presley. Er bod mwy o apêl i mi yng nghaneuon cynharaf y “Jackson Five” ofnaf nad yw cerddoriaeth mwy diweddar Michael wedi apelio fawr ddim. Ym merw’r holl drafod a chleber y dyddiau diwethaf rwyf wedi ceisio atgoffa fy hun fod y canwr 50 oed Michael Jackson yn faban unwaith ym mreichiau ei fam a bod calon y fam honno wedi ei rhwygo’n ddwy o glywed am farwolaeth ei phlentyn. Haws o lawer wrth gwrs yw i bobl fel fi edrych ar y gwisgoedd coegwych, yr olwg gorfforol ryfedd ac ymddygiad bisar y canwr, a’i ddiystyru’n llwyr . Yn wir onid dyna a wnaeth llawer iawn ohonom sy’n perthyn i’r genhedlaeth hÿn dros y dyddiau diwethaf. Er hynny, y gwir yw, fod fy mhlant, sydd a’u hoedran yn ymestyn o 22 – 31, ynghyd â degau o filiynau o bobl eraill ar draws y byd, wedi gwerthfawrogi athrylith ei ddoniau cerddorol a’i berfformiadau llwyfan lliwgar a chofiadwy. Beth bynnag a gredaf i a’m tebyg y mae ei albwm “Thriller” yn parhau fel yr albwm fwyaf llwyddianus i’w chyhoeddi erioed.

Ofnaf ar y gorau mai rhagfarn sy’n llywio fy safbwynt yn y cyd-destun hwn, megis llawer o sefyllfaoedd eraill y deuthum wyneb yn wyneb â hwynt dros y blynyddoedd. Credaf fod mwy i’m safbwynt i na chwaeth gerddorol. Mae’r broblem yn llawer mwy sylfaenol, sef anallu dyn yn aml i weld o dan yr wyneb a’i barodrwydd i dynnu llinyn mesur dros eraill ar sail yr allanolion.

Roedd gan Iesu’r ddawn unigryw i weld i eigion calon unigolyn. Tra bod eraill yn mynnu cynnal eu hobsesiwn gyda’r allanolion – pa mor grefyddol oeddent, pa mor ddrwg oeddent, pa mor bechadurus oeddent – gwelodd Iesu rywbeth mewn pobl oedd yn werth ei gofleidio a’i garu.

Pechod ein cenhedlaeth yw ein bod wedi colli gafael ar ddaioni Duw. Y mae cymaint o bobl sy’n honni dilyn Iesu yn edrych ar eraill ac yn eu trin fel pobl y mae Duw yn eu casau yn hytrach na’u caru. Y mae’n waith hawdd i mi nodi beiau pobl eraill – p’run ai beiau Michael Jackson, fy Aelod Seneddol neu fy nghymydog drws nesaf. Tipyn mwy o gamp yw gweld yr hyn a wêl Duw – yr hedyn o ddaioni –y ddawn unigryw neu’r gri anamlwg am gariad a gwerthfawrogiad. Tipyn o her yw edrychary bydfelymaeDuwynei weld ac y mae angen llygaid newydd arnom ar gyfer y gweld hwnnw. A chyn belled a bod Michael Jackson yn bod, ceisiaf edrych heibio i’r gwisgoedd coegwych, yr olwg gorfforol ryfedd a’r ymddygiad bisar at y ddawn unigryw a welodd fy mhlant.

Er nad oes gobaith i mi efelychu’r “moon walk” enwog gwn fod nerth a chwmni ar gael, pe bawn yn dymuno hynny, i rodio’r llwybr a gerddodd Iesu Grist a gweld y byd drwy ei lygaid Ef.

I’ll reach out my hand to you,
I’ll have faith in all you do
Just call my name and I’ll be there.
(Geiriau o un o ganeuon enwocaf M.J.)

Leave a Reply