O Ble, i Ble?

// Medi 17th, 2009 // Erthyglau Olaf

Braint aruthrol i mi ar ddiwedd Mis Gorffennaf oedd cael bod ymhlith rhai miloedd o Fedyddwyr o bedwar ban y byd oedd yn cyfarfod yn Amsterdam i ddathlu pedwar canmlwyddiant sefydlu’r achos Bedyddiedig cyntaf yn y byd. Ym 1609 cefnodd John Smyth a Thomas Helwys ar erledigaeth yn Lloegr i chwilio am ryddid i addoli Duw yn unol â’u cydwybod. Erbyn hyn y mae’r hyn a gychwynnodd fel dyrnaid o ddilynwyr ymroddedig mewn becws ar lannau’r afon Amstel wedi tyfu’n fudiad byd-eang sy’n rhifo dros 110 o filiynau o aelodau!

Roedd cael bod yng nghwmni cynrychiolwyr brwdfrydig y gynhadledd yn foddion gras a chael clywed am y gorthrwm a wynebodd llawer ohonynt dros y ffydd yn codi cywilydd ar weinidog o Gymru sy’n dueddol o gwyno am yr anawsterau mwyaf dibwys. Y mae eu sêl genhadol yn wefreiddiol a’u parodrwydd i fentro ar hyd llwybrau newydd yn enw Iesu Grist yn peri i ni yng Nghymru a gynefinodd ac a fodlonodd ar ein sefyllfa ers blynyddoedd wrido. Tra’n bod ninnau yn cyfarfod mewn Cyrddau Dosbarth a Chymanfaoedd i rifo’r eglwysi sy’n weddill, syfrdanol oedd clywed Vyacheslav Nesteruk, Llywydd Undeb Bedyddwyr Yr Wcráin yn cyhoeddi iddynt yr wythnos flaenorol gyrraedd carreg filltir nodedig iawn yn eu hanes drwy sicrhau nad oedd ond 17 o drefi ar ôl drwy’r holl wlad bellach heb fod eglwys wedi ei phlannu ynddynt. Eu bwriad oedd bwrw iddi’n ddiymdroi i gyrraedd y nod ac nid oes gan awdur y geiriau hyn unrhyw amheuaeth na wireddir y freuddwyd honno ar fyrder.

Sefydlwyd Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop ym 1949 er mwyn dwyn eglwysi’r enwad at ei gilydd mewn cyfnod pan oedd y gwledydd yn ceisio codi o ganol dinistr yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y Rhyfel Oer cadwodd yr EBF gysylltiad gyda’r credinwyr hynny oedd dan orthrwm y tu draw i’r llen haearn ac erbyn hyn y gwledydd hynny sy’n profi’r cynyrfiadau ysbrydol ysgytwol. Heddiw fe berthyn 50 o Undebau i’r Ffederasiwn sydd rhyngddynt yn cynnwys 13,000 o eglwysi ac 800,000 o aelodau. Y mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn ffurfio cyfran fechan o’r ystadegau hyn ond y mae o’r pwys mwyaf ei bod yn parhau felly. Cofiaf yn dda gychwyn fy ngweinidogaeth nid nepell o Rydwilym, – mangre sydd a’i arwyddocâd arbennig i ninnau fel enwad yng Nghymru. Gallwn sôn am Olchon a Llanfaches fel ein Amsterdam ninnau ond cofiwn ar yr un pryd mai saint oedd y rheini a wyddai i ba le yn union yr oeddent yn mynd. Roedd sbonc a chyfeiriad pendant i’w cerddediad. Tra bod eglwysi’n henwad ar gyfandir Ewrop yn gwybod yn iawn o ba le y daethant ac wedi dathlu’r ffaith mewn modd gorfoleddus fwrw Sul 24-26 Gorffennaf, pobl ydynt hefyd sy’n gwbl sicr i ba le y maent yn mynd. Byddai’n dda i ninnau gymryd hanner dalen o’r gyfrol drwchus y maent yn ei llunio yn y blynyddoedd hyn.

Leave a Reply