Bryn Llifon
Ar ail Sul y mis am 4.30pm mi fydd Olaf a rhai o aelodau’r Eglwys yn cynnal Gwasanaeth Cymun yng nghartref Gofal Bryn Llifon, cartref i’r henoed sy’n eiddo i’r Bedyddwyr.
Mae Bryn Llifon wedi ei leoli dafliad carreg o Penuel ar Ffordd Meirion gyferbyn a stiwdios y BBC ar un llaw a Neuadd John Morris Jones ar y naill.
Mae croeso i bawb ymuno gyda ni; bydd preswylwyr y cartref yn falch iawn o’ch cwmni.








