Oedfaon y Sul

Gan amlaf cynhelir dwy oedfa bob Sul ym Mhenuel. Oedfa deuluol yn y Capel ei hun am 10am fydd yn cynnwys stori i’r plant ac yna Ysgol Sul yn ystod y Bregeth. Oedfa fwy anffurfiol am 5.30pm lawr llawr yn y festri.
Bydd oedfa’r bore yn cynnwys canu ychydig o emynau, darllen rhan o’r Beibl, gweddi ac yna gair gan Olaf ein Gweinidog neu un o’r pregethwyr gwadd fydd yn ymweld â ni y Sul hwnnw. Bydd oedfa’r hwyr yn dilyn patrwm digon tebyg ond mewn awyrgylch mwy anffurfiol.
Amrywiadau
Ar ail Sul y mis ni fydd oedfa hwyr ym Mhenuel gan ein bod ni’n cynnal Oedfa Gymun yng nghartref Bryn Llifon. I ddarllen mwy am y gweithgaredd hwn rhowch glec YMA.
Ar y pedwerydd Sul yn y mis byddwn yn ymuno gydag Eglwysi Cymraeg eraill Bangor mewn oedfa undebol. Cadwch lygad YMA am y drefn a’r lleoliad. Cynhelir Oedfa Gymun ar fore Sul cyntaf y mis.

