Penuel Bangor

Abdelbaset al- Megrahi
Wrth geisio crynhoi fy meddyliau ar gyfer y golofn hon y mae’r drafodaeth, neu yn wir y ffrae, am ryddhau Abdelbaset al Megrahi yn dwysau. Yn wir y mae’r ffrae yn tanlinellu’r gwrthdaro sydd ynom rhwng yr angen am weld gweinyddu cyfiawnder ar y naill law ac ar y llaw arall ein dyhead am gael gweld trugaredd, tosturi a gras yn gorchfygu.

A bwrw mai’r dyn hwn oedd yn gyfrifol am y gyflafan yn y lle cyntaf (ac y mae lle mawr i amau hynny) wrth gwrs y mae lle i ddadlau na ddylai fod wedi ei ryddhau. Y mae’r reddf naturiol sydd ym mhawb yn gwybod hynny. Carcharwyd y gþr a ddyfarnwyd yn euog o achosi marwolaeth dau gant saith deg o bobl ar Pan Am 103 ar 21 Rhagfyr 1988, i garchar am o leiaf ugain mlynedd. Yr oedd hynny’n gyfiawn. Yn wir byddai rhai am ddadlau fod elfen o drugaredd yn y dyfarniad hwnnw. Oni ddylai fod wedi marw am ei drosedd? Gwaed am waed, llygad am lygad, bywyd am fywyd? Y mae carfan gref o bobl yn credu fod unrhyw gymdeithas sy’n gwahardd y gosb eithaf yn dangos llawer iawn mwy o ddiddordeb mewn trugaredd na chyfiawnder.

Erbyn hyn y mae’r sinig sydd ynof yn dueddol o gredu fod a wnelo rhyddhau al-Megrahi lawer iawn mwy â pherthynas wleidyddol gyda Libya (lle mae’r olew llifo’n rhwydd) nag ydyw ag unrhyw syniad dyrchafol am dosturi. Ond wrth wrando’r dadlau ynglÿn â’r achos hwn y mae’n amlwg fod mwyafrif llethol y drafodaeth yn ymwneud â moesoldeb. Wrth annerch Senedd yr Alban dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenny MacAskill: “Our Justice system demands that judgment be imposed but compassion be available. Our beliefs dictate that justice be served, but mercy be shown.”

Y mae trugaredd, tosturi a gras yn rhinweddau y carem fod yn feddiannol arnynt ond ysywaeth y mae dialedd a thra-arglwyddiaethu yn dod yn llawer iawn mwy naturiol i ni. Ond pwy ddywedodd mai’r hyn sy’n dod yn naturiol i ni sydd orau?

Y mae’r ffydd a ymddiriedwyd i ni yn dysgu fod trugaredd a chyfiawnder yn un yng ngolwg Duw. Y mae a wnelo Duw bob amser â’r ymchwil am gyfiawnder a’r ymgais i unioni cam. Y mae a wnelo hefyd a’r ymchwil am lwybr sy’n cynnig trugaredd a rhyddhad i’r sawl sy’n haeddu barn.

Yn hyn o beth y mae penderfyniad llywodraeth yr Alban i ryddhau al- Megrahi yn cyhoeddi i’r byd fod yna “ffordd ragorach fyth”. Nid rhaff neu gadair drydan yw symbol y ffydd Gristnogol, oherwydd dim ond cyfiawnder a weinyddir yng nghyd- destun yr offer hynny. Ond y mae o hyd rhyw drydedd ran o boblogaeth y byd yn parhau i gofleidio neges hen, hen groesbren garw lle mae cyfiawnder a thrugaredd yn cyfarfod a’i gilydd yn yr un lle.

O Ble, i Ble?
Braint aruthrol i mi ar ddiwedd Mis Gorffennaf oedd cael bod ymhlith rhai miloedd o Fedyddwyr o bedwar ban y byd oedd yn cyfarfod yn Amsterdam i ddathlu pedwar canmlwyddiant sefydlu’r achos Bedyddiedig cyntaf yn y byd. Ym 1609 cefnodd John Smyth a Thomas Helwys ar erledigaeth yn Lloegr i chwilio am ryddid i addoli Duw yn unol â’u cydwybod. Erbyn hyn y mae’r hyn a gychwynnodd fel dyrnaid o ddilynwyr ymroddedig mewn becws ar lannau’r afon Amstel wedi tyfu’n fudiad byd-eang sy’n rhifo dros 110 o filiynau o aelodau!

Roedd cael bod yng nghwmni cynrychiolwyr	brwdfrydig	y gynhadledd yn foddion gras a chael clywed am y gorthrwm a wynebodd llawer ohonynt dros y ffydd yn codi cywilydd ar weinidog o Gymru sy’n dueddol o gwyno am yr anawsterau mwyaf dibwys. Y mae eu sêl genhadol yn wefreiddiol a’u parodrwydd i fentro ar hyd llwybrau newydd yn enw Iesu Grist yn peri i ni yng Nghymru a gynefinodd ac a fodlonodd ar ein sefyllfa ers blynyddoedd wrido. Tra’n bod ninnau yn cyfarfod mewn Cyrddau Dosbarth a Chymanfaoedd i rifo’r eglwysi sy’n weddill, syfrdanol oedd clywed Vyacheslav Nesteruk, Llywydd Undeb Bedyddwyr Yr Wcráin yn cyhoeddi iddynt yr wythnos flaenorol gyrraedd carreg filltir nodedig iawn yn eu hanes drwy sicrhau nad oedd ond 17 o drefi ar ôl drwy’r holl wlad bellach heb fod eglwys wedi ei phlannu ynddynt. Eu bwriad oedd bwrw iddi’n ddiymdroi i gyrraedd y nod ac nid oes gan awdur y geiriau hyn unrhyw amheuaeth na wireddir y freuddwyd honno ar fyrder.

Sefydlwyd Ffederasiwn Bedyddwyr Ewrop ym 1949 er mwyn dwyn eglwysi’r enwad at ei gilydd mewn cyfnod pan oedd y gwledydd yn ceisio codi o ganol dinistr yr Ail Ryfel Byd. Yn ystod y Rhyfel Oer cadwodd yr EBF gysylltiad gyda’r credinwyr hynny oedd dan orthrwm y tu draw i’r llen haearn ac erbyn hyn y gwledydd hynny sy’n profi’r cynyrfiadau ysbrydol ysgytwol. Heddiw fe berthyn 50 o Undebau i’r Ffederasiwn sydd rhyngddynt yn cynnwys 13,000 o eglwysi ac 800,000 o aelodau. Y mae Undeb Bedyddwyr Cymru yn ffurfio cyfran fechan o’r ystadegau hyn ond y mae o’r pwys mwyaf ei bod yn parhau felly. Cofiaf yn dda gychwyn fy ngweinidogaeth nid nepell o Rydwilym, – mangre sydd a’i arwyddocâd arbennig i ninnau fel enwad yng Nghymru. Gallwn sôn am Olchon a Llanfaches fel ein Amsterdam ninnau ond cofiwn ar yr un pryd mai saint oedd y rheini a wyddai i ba le yn union yr oeddent yn mynd. Roedd sbonc a chyfeiriad pendant i’w cerddediad. Tra bod eglwysi’n henwad ar gyfandir Ewrop yn gwybod yn iawn o ba le y daethant ac wedi dathlu’r ffaith mewn modd gorfoleddus fwrw Sul 24-26 Gorffennaf, pobl ydynt hefyd sy’n gwbl sicr i ba le y maent yn mynd. Byddai’n dda i ninnau gymryd hanner dalen o’r gyfrol drwchus y maent yn ei llunio yn y blynyddoedd hyn.

Gweld a Gweld
Rhaid cyfaddef nad wyf yn rhannu’r hyn sy’n ymddangos yn frwdfrydedd gweddill y byd am Michael Jackson. Rwy’n fwy o ffan y Brenin Roc o Memphis, Elvis Presley. Er bod mwy o apêl i mi yng nghaneuon cynharaf y “Jackson Five” ofnaf nad yw cerddoriaeth mwy diweddar Michael wedi apelio fawr ddim. Ym merw’r holl drafod a chleber y dyddiau diwethaf rwyf wedi ceisio atgoffa fy hun fod y canwr 50 oed Michael Jackson yn faban unwaith ym mreichiau ei fam a bod calon y fam honno wedi ei rhwygo’n ddwy o glywed am farwolaeth ei phlentyn. Haws o lawer wrth gwrs yw i bobl fel fi edrych ar y gwisgoedd coegwych, yr olwg gorfforol ryfedd ac ymddygiad bisar y canwr, a’i ddiystyru’n llwyr . Yn wir onid dyna a wnaeth llawer iawn ohonom sy’n perthyn i’r genhedlaeth hÿn dros y dyddiau diwethaf. Er hynny, y gwir yw, fod fy mhlant, sydd a’u hoedran yn ymestyn o 22 – 31, ynghyd â degau o filiynau o bobl eraill ar draws y byd, wedi gwerthfawrogi athrylith ei ddoniau cerddorol a’i berfformiadau llwyfan lliwgar a chofiadwy. Beth bynnag a gredaf i a’m tebyg y mae ei albwm “Thriller” yn parhau fel yr albwm fwyaf llwyddianus i’w chyhoeddi erioed.

Ofnaf ar y gorau mai rhagfarn sy’n llywio fy safbwynt yn y cyd-destun hwn, megis llawer o sefyllfaoedd eraill y deuthum wyneb yn wyneb â hwynt dros y blynyddoedd. Credaf fod mwy i’m safbwynt i na chwaeth gerddorol. Mae’r broblem yn llawer mwy sylfaenol, sef anallu dyn yn aml i weld o dan yr wyneb a’i barodrwydd i dynnu llinyn mesur dros eraill ar sail yr allanolion.

Roedd gan Iesu’r ddawn unigryw i weld i eigion calon unigolyn. Tra bod eraill yn mynnu cynnal eu hobsesiwn gyda’r allanolion – pa mor grefyddol oeddent, pa mor ddrwg oeddent, pa mor bechadurus oeddent – gwelodd Iesu rywbeth mewn pobl oedd yn werth ei gofleidio a’i garu.

Pechod ein cenhedlaeth yw ein bod wedi colli gafael ar ddaioni Duw. Y mae cymaint o bobl sy’n honni dilyn Iesu yn edrych ar eraill ac yn eu trin fel pobl y mae Duw yn eu casau yn hytrach na’u caru. Y mae’n waith hawdd i mi nodi beiau pobl eraill – p’run ai beiau Michael Jackson, fy Aelod Seneddol neu fy nghymydog drws nesaf. Tipyn mwy o gamp yw gweld yr hyn a wêl Duw – yr hedyn o ddaioni –y ddawn unigryw neu’r gri anamlwg am gariad a gwerthfawrogiad. Tipyn o her yw edrychary bydfelymaeDuwynei weld ac y mae angen llygaid newydd arnom ar gyfer y gweld hwnnw. A chyn belled a bod Michael Jackson yn bod, ceisiaf edrych heibio i’r gwisgoedd coegwych, yr olwg gorfforol ryfedd a’r ymddygiad bisar at y ddawn unigryw a welodd fy mhlant.

Er nad oes gobaith i mi efelychu’r “moon walk” enwog gwn fod nerth a chwmni ar gael, pe bawn yn dymuno hynny, i rodio’r llwybr a gerddodd Iesu Grist a gweld y byd drwy ei lygaid Ef.

I’ll reach out my hand to you,

I’ll have faith in all you do

Just call my name and I’ll be there.

(Geiriau o un o ganeuon enwocaf M.J.)