Traidcraft

Ers blynyddoedd bellach bu Penuel yn cefnogi gwaith Traidcraft. Erbyn hyn Olaf a Helen Davies yw cynrychiolwyr Traidcraft yn yr ardal hon. Cynhelir Bore Coffi ar y Sadwrn cyntaf o bob mis 10.00- 12.00. Y mae cyfle i gael sgwrs a phrynu nwyddau amrywiol Traidcraft.
Coffi, Te, Bwydydd. Dillad a chrefftau.
Mynnwch fasnachu’n deg!!
Dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd o 10 – 12 o’r gloch
Bydd y siop ar agor fel arfer a bydd nwyddau Nadolig o siop Cynnyrch Cyfiawn, Conwy ar gael.
Ni fydd y siop ar agor fis Ionawr, ond bydd angen stocio’r cypyrddau eto ddechrau Chwefror. Byddai’n braf cael cwmni pawb yn ei dro, mae’n gyfle da am sgwrs. Diolch i bawb a fu’n cynorthwyo yn ystod y flwyddyn, yn
paratoi coffi, yn helpu tu l y byrddau, yn gosod y stondinau ac yn clirio. Diolch arbennig i Dilwen, Eleri Jones,
Eleri Williams sydd ar gael bob amser, a’r ieuenctid sydd yn barod iawn i helpu yn eu tro.




