Y Gymdeithas

Mae’r Gymdeithas Ddiwylliannol yn cyfarfod bob mis i gael mwynhau cymdeithas ein gilydd a chlywed siaradwyr gwadd yn trafod pynciau amrywiol – rhai yn ddwys a rhai yn ysgafn. Mae’r Gymdeithas yn cyfarfod ar y cyd gydag aelodau Eglwys arall ym Mangor sef Pendref ac felly am yn ail fis byddwn ni’n cyfarfod yn y naill gapel neu’r llall.
Dyma raglen 2011/2012 y Gymdeithas:
1 Hydref – Pendref
Brethyn Cartref – noson o eitemau gan aelodau’r ddwy eglwys
11 Tachwedd – Penuel
‘Y Llew Frenin’ Siaradwr: William Owen, Borth y Gest. (Noddir y noson gan yr Academi)
9 Mehefin – Pendref
Gwasanaeth yr Adfent. Trefnir gan Huw John Huws. Paned a Mins Peis
13 Ionawr – Penuel
‘Sgwrs a Chân’ yng nghwmni Robert Wynne Roberts
10 Chwefror – Pendref
‘Gwenyn a Gwenyna’ Sgwrs a sleidiau gan Wes a Catrin Evans
10 Mawrth – Penuel
Dathlu Gwyl Ddewi. Cawl a hwyl dan ofal Huw John Huws ac Olaf Davies. Tocynnau £3
12 Mai – Gwibdaith a Swper

