Lle ydym ni?

Sut i gyraedd y capel
Mae Penuel wedi ei leoli ar ochr ddwyreiniol dinas Bangor yng ngogledd Cymru. Y mae mynediad i’r capel o Lôn Cariadon, y ffordd sy’n arwain o Neuadd Syr John Morris Jones a Ffordd Garth Ucha i ganol y ddinas.
Cyfeiriad y Capel
Capel Penuel, Ffordd Deiniol, Bangor, Gwynedd
Ffôn: 01248 371075
Eglwysi Eraill yr Ofalaeth
Y mae ein gweinidog yn gofalu am dair eglwys arall yng nghyffiniau dinas Bangor. Bethel Caellwyngrudd (Rachub); Libanus Clwtybont a Sardis Dinorwig. Bydd y gweinidog yn gwasanaethu un oedfa’r mis ym mhob un o’r eglwysi hyn. Er mai eglwysi cymharol fychan ydynt o ran rhif y mae eu teyrngarwch a’u dyfalbarhad yn rhyfeddol. Cewch yma eto brofi cymdeithas glos a chynnes.

