Pwy ‘di pwy
Gweinidog
Daeth Olaf i Benuel yn Ionawr 1992 wedi gweinidogaethu yn Sir Benfro, Dyffryn Teifi a Llyn ac Eifionydd. Y mae’n frodor o Ddyffryn Aman, yn briod â Helen ac mae ganddynt dri o blant a phedwar o wyrion. Y mae Olaf ar gael unrhyw bryd am sgwrs, ymweliad bugeiliol neu i drafod unrhyw fater yn ymwneud â gweinidogaeth yr Eglwys.
Elen Landsdown
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau
Yn enedigol o Fangor, mae Elen yn briod â Steve ac mae ganddynt ddwy ferch. Cyfieithydd yw Elen i’r Ymddiriedolaeth Iechyd lleol. Mae ei diddordebau’n eang a’i gweithgarwch yn y gymuned yn fyrlymus.
Bill Davies
Ysgrifennydd Cyffredinol
Yn enedigol o Borthmadog ac yn briod â Ruth. Mae ganddynt ddau o blant – Rhys a Branwen. Ef yw Cyfarwyddwr Personél Gyrfa Cymru a bu am gyfnod yn ysgrifennydd Eglwys Penuel. Ymddiddora mewn drama, pêl-droed a chadw’n heini!
Ruth Davies
Arolygwr yr Ysgol Sul
Mae Ruth yn briod â Bill ac wedi ei magu yma ym Mangor. Bu’n ddarlithydd yn y coleg cyn ymddeol. Mae’n gweithredu fel Ynad Heddwch ar Ynys Môn ers rhai blynyddoedd. Ar waethaf ei phrysurdeb y mae gweithgarwch yr eglwys yn uchel iawn ar restr ei blaenoriaethau.
Dilwen Jones
Trysorydd yr Offrwm
Y mae Dilwen wedi ei magu ym Mhenuel ac wedi treulio ei hoes yma. Bydd rhywbeth mawr o’i le os na fydd Dilwen yn gwenu! Y mae ei brwdfrydedd yn heintus ac yn ennyn edmygedd pawb sydd yn ei hadnabod. Bydd yn barod i gyflawni unrhyw dasg sydd o fewn ei gallu i’w wneud. Y mae wrth ei bodd gyda gwaith y plant a’r ieuenctid. Caffaeliad yn wir!


